KaleidoTile Icon KaleidoTile

Dysgwch am bolyhedronau a theils wrth greu celf cinemateg liwgar. Mae arddull wastad yn caniatáu i chi greu polyhedronau traddodiadol ac mae arddull grom yn llyfnhau eich polyhedronau yn deils ar y sffêr, ar y plân Ewclidaidd neu ar y plân hyperbolig. Addurnwch eich gwaith gyda’ch lluniau eich hunain neu defnyddiwch luniau a lliwiau o’r paletau gosod. Gallwch newid unrhyw bolyhedron neu deilsen yn unrhyw un arall ym mhob un grŵp cymesuredd. Er enghraifft, gallwch droi dodecahedron yn icosahedron, gan gadarnhau fod ganddynt yr un cymesureddau.

Bwriedir KaleidoTile ar gyfer blynyddoedd 9-12, ond caiff hefyd ei ddefnyddio ar gyrsiau geometreg mewn colegau (er mwyn astudio grwpiau cymesuredd) ac mewn ysgolion canol (er mwyn astudio cymesuredd trwy gyfrwng celf). Daw KaleidoTile gyda set o gwestiynau ar deils a chymesuredd ar gyfer gwaith mewn grwpiau bychan.

Ieithoedd Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg, Japanaeg, Corëeg, Portiwgaleg
Trwydded Rhadwedd (Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU)
COA Geometry Games FAQ
Diweddarwyd
16 Mai 2013 (fersiwn 3.8.1)
3.8.1 (Windows) Improved font quality (especially East Asian) on Windows Vista and newer
3.8.0 Internal simplifications
Llwytho i lawr KaleidoTile ar gyfer Mac OS 10.7 neu ddiweddarach — OpenGL 3 (3.6 MB)
KaleidoTile ar gyfer Mac OS 10.6 neu ddiweddarach — OpenGL 2 (3.7 MB)
KaleidoTile ar gyfer Windows XP neu ddiweddarach — caledwedd mwy diweddar (3.4 MB)
KaleidoTile ar gyfer Windows XP neu ddiweddarach — pob caledwedd (3.4 MB)
Cod gwreiddiol KaleidoTile (3.6 MB)
Fersiynau hŷn…

Cysylltwch â Jeff Weeks.

Gyda diolch mawr i’r cyfieithwyr: Gareth Roberts ac Uned Gyfieithu Prifysgol Bangor

Edrychwch ar y dudalen hon yn yr ieithoedd canlynol:   Cymraeg   English   Français   Italiano   日本語   한국어   Português

Mae’r deunydd hwn yn seiliedig ar waith a gefnogir gan y National Science Foundation dan grant rhif 1136261. Eiddo’r awdur yw unrhyw farn, unrhyw gasgliadau neu unrhyw argymhellion a nodir yn y deunydd hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn y National Science Foundation.

[Yn ôl i hafan Geometry Games home.]